CEFNOGAETH LLYTHRENNEDD ARBENIGOL
Ydi eich plentyn yn profi anawsterau darllen, sillafu neu unrhyw anawsterau llythrennedd eraill?
Rydwi’n cynnig cymorth arbenigol personol er mwyn cefnogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau, hyder ac annibyniaeth.
Does dim rhaid i blant gael diagnosis o ddyslecsia cyn derbyn cymorth.
Os oes gan y plentyn anawsterau yn gysylltiedig â sgiliau llythrennedd, rydwi ar gael i gynnig cymorth.
Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer ystod eang o anawsterau sydd yn gysylltiedig â sgiliau llythrennedd.
Mae sesiynau fel arfer yn para hyd at awr, ac maent yn gallu cael eu cynnal yn wythnosol, bob pythefnos, neu yn fisol. Bydd amlder y sesiynau yn newid ac yn ddibynnol ar anghenion y plentyn.
Mae’r sesiynau yn hwyliog ac yn gefnogol, wastad wedi’u seilio ar dystiolaeth, ac yn cymryd i ystyriaeth targedau a gweithgareddau sydd yn addas i’r plentyn.
Ddim yn siŵr a oes angen cymorth ar eich plentyn?
Nid oes angen diagnosis nac atgyfeiriad i gysylltu â ni. Rydym yn hapus i drefnu sgwrs anffurfiol i drafod eich pryderon ac ystyried sut y gallwn helpu.
Cysylltwch hefo fi i wneud ymholiad.

