Rydym wedi gweithio gyda rhai pobl arbennig iawn, ac maent yn hapus i argymell ein gwaith i eraill...

Dark teal quotation marks icon

Yn dilyn cyfeiriad at SALT gan y Cylch Meithrin roedden yn awyddus i ddechrau cefnogi Sam yn syth gyda’i lafaredd. Yn dilyn argymhellion, doedd dim cwestiwn mai at Cain roedden ni eisiau mynd tra ar rhestr aros y NHS. 

Roedd y sesiynau gyda Cain yn wych. Setlodd Sam yn syth (sydd yn deud lot!) a rhyngweithio a datblygu iaith wrth chwarae. Y rhan fwyaf gwerthfawr i ni gyda Cain oedd yr hyfforddiant gafon ni er mwyn newid y ffordd roedden ni’n siarad hefo Sam. Mae hwn hyd heddiw yn parhau i ddatblygu llafaredd Sam. Roedden yn edrych ar fideo o Sam a ni yn chwarae ac ystyried strategaethau ac ymyraethau pwrpasol. Dwi bellach yn gwneud rhain heb sylwi! 

Diolch i’r sesiynau hefo Cain fe ddaeth llafaredd Sam yn ei flaen yn arbennig. 

Stylized teal closing quotation marks icon
Two teal quotation marks

Mae’r sesiynau gyda Cain wedi bod yn help mawr i mi i fedru ynganu’r sain ‘r’. Roedd y sesiynau yn ddiddorol ac amrywiol ac roedd Cain yn fy herio i gyrraedd y targed.

Dwi’n llawer mwy hyderus erbyn hyn yn defnyddio’r sain ‘r’ o ddydd i ddydd ac yn diolch yn fawr i Cain am fy helpu i wneud y gwahaniaeth yma.

Teal closing quotation marks icon
Teal quotation marks icon

Mae Cain wedi bod yn hynod o amyneddgar, cyfeillgar a chefnogol drwy gydol y broses o ddarparu therapi lleferydd i fy merch 12 oed. Mae ganddi ffordd wych o feithrin perthynas dda, gan wneud pob sesiwn yn bleserus ond hefyd yn  sicrhau ei bod yn cadw ffocws ac yn parhau i ddatblygu.

Mae’n taro’r cydbwysedd perffaith rhwng bod yn galonogol ac yn gefnogol, ond hefyd yn herio i sicrhau ei bod yn gwneud cynnydd a chyflawni’r canlyniadau gorau posibl.

Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr ei hymroddiad, ei hamynedd a’i hagwedd gadarnhaol a byddwn  yn hapus iawn i argymell Cain i unrhyw riant sy’n chwilio am therapydd lleferydd proffesiynol, cefnogol ac effeithiol i’w plentyn.

Two teal closing quotation marks
Pair of teal quotation marks

Mae Cain wedi bod yn hollol wych, o’r asesiad i’r therapi bloc. Mae hi wedi bod yn help mawr i ni, ac wedi gwrando ar ein pryderon bob cam o’r ffordd.

Mae fy mab wedi dod ymlaen mor dda gyda Cain, ac mae’n braf iawn gweld y berthynas sydd ganddyn nhw. Mae hi wedi gwneud dysgu’n hwyl iddo, ac mae’n braf gweld ei fod yn mwynhau ei sesiynau gymaint. Hefyd yn braf iawn bod y therapi wedi bod yn Gymraeg. Mae’n golygu cymaint i fy mab allu dysgu a datblygu ei sgiliau siarad yn ei iaith ei hun

Yng ngeiriau fy mab ei hun: “Mae Cain wedi fy helpu i siarad yn iawn, ac mae hi’n ffrind gorau i fi!”

Fel rhiant, mae’n wych gweld fy mab yn magu hyder ac yn mwynhau dysgu. Rydyn ni mor ddiolchgar i Cain am ei hamynedd, ei charedigrwydd a’r holl help mae hi wedi’i roi i ni.

Diolch yn fawr, Cain, am bopeth rwyt ti wedi’i wneud dros fy mab.

Two teal quotation marks