IAITH, LLEFEDYDD A CHYFATHREBU
Ydych chi'n poeni am ddatblygiad iaith, lleferydd neu gyfathrebu eich plentyn?
Mae Therapi CEG yn cynnig asesiadau a therapi iaith a lleferydd wedi'u teilwra i anghenion plant rhwng 0 ac 16 oed ledled Gogledd Gorllewin Cymru.
Rydwi yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar, cefnogol a chwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, gan helpu plant i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a'u hyder.
Rydym yn cynnig cymorth ar gyfer ystod eang o anghenion, gan gynnwys:
Datblygiad iaith cynnar
Anawsterau gyda seiniau lleferydd
Anhwylder Iaith Datblygiadol (DLD)
Gwahaniaethau cyfathrebu sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth
Atal dweud
Mudandod dethol
Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC)
Asesu a Therapi
Rydwi yn cynnig asesiadau cynhwysfawr er mwyn deall cryfderau ac anghenion unigol pob plentyn.
Mae sesiynau therapi wedi'u teilwra i anghenion y plentyn, gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog, diddorol sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a'u hyder.
Gall sesiynau gael eu cynnal yn fy ystafell therapi ym Motwnnog, yn y cartref, mewn meithrinfeydd neu ysgolion, yn dibynnu ar anghenion eich plentyn.
Ddim yn siŵr a oes angen cymorth ar eich plentyn?
Nid oes angen diagnosis nac atgyfeiriad i gysylltu â ni. Rydym yn hapus i drefnu sgwrs anffurfiol i drafod eich pryderon ac ystyried sut y gallwn helpu.
Cysylltwch hefo fi i wneud ymholiad.

