GWYBODAETH I RIENI
Atebion i gwestiynau sydd yn cael eu gofyn yn aml …
-
Yndi. Po gyntaf y caiff cleient gymorth gyda’i leferydd, ei iaith, neu ei gyfathrebu, gorau oll. Gallwch weld Therapydd Iaith a Lleferydd Annibynnol tra byddwch yn aros am therapydd y GIG, neu ar yr un pryd â gweld therapydd y GIG.
-
Na. Ffoniwch fi a gallwch gyfeirio eich plentyn ataf yn uniongyrchol.
-
Fel arfer, rydwi yn cynnig cyfnodau therapi o 5 sesiwn. Gall y rhain fod yn wythnosol neu bob pythefnos, yn dibynnu ar anghenion eich plentyn.
-
Mae cynnydd yn amrywio o unigolyn i unigolyn, yn dibynnu ar broffil cyfathrebu’r plentyn, ei oedran, pa mor aml y caiff therapi, a chysondeb y strategaethau a ddefnyddir adra neu yn yr ysgol.
-
Yndw. Bydd yr asesiad yn cyfuno arsylwi, trafod, ac asesu anffurfiol trwy chwarae gan na fydd plant ifanc iawn yn gallu eistedd trwy brofion ffurfiol. Mae ymyrraeth gynnar yn hollbwysig. Mae therapi bob amser yn seiliedig ar chwarae, gan mai chwarae yw’r offeryn gorau i’ch plentyn ddysgu sgiliau cyfathrebu.
-
Fel arfer, yn yr ystafell therapi yn Botwnnog; fodd bynnag, gall sesiynau gael eu cynnal yn eich cartref, yn y meithrinfa, neu yn yr ysgol. Weithiau, mae’n ddefnyddiol gweld plentyn mewn mwy nag un lleoliad er mwyn asesu sut mae hi/o yn ymdopi mewn sefyllfaoedd gwahanol. Gallwn drafod pa leoliad fyddai fwyaf addas ar gyfer eich plentyn.
-
Mae'r sesiwn asesu gychwynnol fel arfer yn para tua 60-90 munud, gan gynnwys trafodaeth gyda'r rhieni; bydd hyn yn dibynnu ar oedran y plentyn a pha mor hir y gall ganolbwyntio. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cynnig sesiwn ychwanegol i gwblhau'r asesiadau, neu i weld eich plentyn mewn amgylchedd gwahanol.
-
Mae hyn yn dibynnu ar anghenion eich plentyn a'i oedran. Fel arfer, mae'r sesiynau'n para awr; mae'r rhan fwyaf o'r amser hwnnw'n cael ei dreulio'n uniongyrchol gyda'ch plentyn, ond mae hefyd yn cynnwys amser i drafod sut aeth yr wythnos flaenorol a pha weithgareddau y dylid symud ymlaen atynt nesaf.
-
Yndw – gallaf drefnu sgwrs am ddim i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych.
-
Os yn briodol, gallaf drefnu asesiad ar gyfer eich plentyn.
-
Yndi – rydwi'n ddwyieithog, a gallaf gynnig cymorth yn y ddwy iaith.
-
Yndw – gallaf ysgrifennu adroddiad yn dilyn asesiadau, y gallwch ei rannu gydag ysgol eich plentyn.
-
Cysylltwch hefo fi i drafod y ffioedd cyfredol.
-
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sgiliau cyfathrebu eich plentyn, cysylltwch hefo fi i gael sgwrs. Gallwn drafod unrhyw bryderon sydd gennych a rhoi cyngor perthnasol.
Mae ymyrraeth gynnar yn bwysig, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu hefo fi.

